ITV announce that the forthcoming 21st series of I’m A Celebrity…Get Me Out Of Here! will return to the historic Gwrych Castle, Abergele in North Wales.

The show, produced by Lifted Entertainment, part of ITV Studios, will be hosted by Ant & Dec and broadcast live every night from the ruined castle, as a brand new cast of celebrities adjust to their new surroundings.

Hot on the heels of Giovanna Fletcher being crowned Queen of the Castle in 2020, viewers will once again see the celebrities undertake gruelling trials and action packed challenges to win food and treats, in the lead up to one of them emerging victorious.

The first show of the 2020 series, which ran on Sunday 15 November at 9pm, consolidated to an audience of 13.8m TV viewers [52% audience share] over the first seven days of its availability.  With 0.5m viewers watching via non-TV devices, the total reached 14.3m viewers. It was also the most popular show of 2020 for young viewers with an average of 2.8m and two thirds [66 per cent] of 16-34s watching across the series, and overall it became the second most watched series of I’m A Celebrity, which has been on air since 2002.

Katie Rawcliffe, ITV Head of Entertainment Commissioning, said: “We can confirm today that we’ll be returning to Wales for the 2021 series of I’m A Celebrity…Get Me Out Of Here! We’ve always said we have contingencies in place for the series if the covid situation continued to bring uncertainty, and after a highly successful run at the castle last year we’re pleased that we can return there. I have no doubt the production team will produce another hugely entertaining series.”

Richard Cowles, Director of Unscripted at Lifted Entertainment said: “With the continued uncertainty around covid and international travel we have taken the decision not to return to our home in Australia for the 2021 series.  We’re excited to return to Gwrych Castle.  The last series was a huge success and we were made to feel so welcome by everyone locally and can’t wait to see everyone again.”

Dr Mark Baker, Chair of the Gwrych Castle Preservation Trust said “I’m absolutely delighted that I’m A Celebrity has chosen Gwrych Castle to be its UK location for the 2021 series.

Gwrych Castle is a beautiful grade I listed historic house and a must-see destination for tourists visiting Wales. I’m A Celebrity being here will really help support its ongoing restoration as well as giving the region a much-needed economic boost. We are all very excited to be working with the team again.”

The Welsh Government’s Deputy Minister for Arts and Sport, Dawn Bowden, said:  “This is excellent news and we look forward to welcoming the I’m a Celebrity team back to Wales this year, and to working with them to make it an even better year! Croeso nol! Welcome back!”

More information about the 2021 series will be released in due course.

ITV Studios handles global distribution for I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here!, with the show having been commissioned in 11 other territories including Australia, Germany and most recently Greece.

_______________

I’M A CELEBRITY…GET ME OUT OF HERE! YN DYCHWELYD I GYMRU AR GYFER CYFRES 2021

Mae ITV heddiw yn cyhoeddi bod yr 21ain gyfres o I’m A Celebrity … Get Me Out of Here! yn dychwelyd i Gastell Gwrych, Abergele yng Ngogledd Cymru.

Bydd y sioe, a gynhyrchwyd gan Lifted Entertainment, rhan o ITV Studios, yn cael ei chyflwyno gan Ant & Dec a’i darlledu’n fyw bob nos o’r hen gastell hanesyddol, wrth i gast newydd sbon o enwogion addasu i’w hamgylchedd newydd.

Blwyddyn ers i Giovanna Fletcher gael ei choroni’n Frenhines y Castell yn 2020, bydd gwylwyr unwaith eto’n cael cyfle i weld yr enwogion yn cymryd rhan mewn treialon dyrys a heriau llawn bwrlwm i ennill bwyd a danteithion, cyn i un ohonynt gael eu coroni’n fuddugol.

Sicrhaodd rhaglen gyntaf cyfres 2020, a ddarlledwyd ddydd Sul 15 Tachwedd am 9pm, gynulleidfa o 13.8m o wylwyr teledu [cyfran o 52% o’r gynulleidfa] dros saith diwrnod cyntaf ei hargaeledd. Gyda 0.5m o wylwyr yn gwylio trwy ddyfeisiau heblaw am deledu, cyrhaeddodd gyfanswm o 14.3m o wylwyr. Hon hefyd oedd sioe fwyaf poblogaidd 2020 i wylwyr ifanc gyda chyfartaledd o 2.8m a dwy ran o dair [66%] o oedran 16-34 yn gwylio ar draws y gyfres. Ar y cyfan, hon oedd yr ail gyfres o I’m A Celebrity gyda’r ganran uchaf o wylwyr ers y darllediad cyntaf yn 2002.

Dywedodd Katie Rawcliffe, Pennaeth Comisiynu Adloniant ITV: “Gallwn gadarnhau heddiw y byddwn yn dychwelyd i Gymru ar gyfer cyfres 2021 o I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here! Rydyn ni bob amser wedi dweud bod gennym ni ddigwyddiadau wrth gefn ar gyfer y gyfres pe bai’r sefyllfa covid yn parhau i beri ansicrwydd, ac ar ôl cyfres lwyddiannus yn y castell y llynedd, rydyn ni’n falch ein bod ni’n gallu dychwelyd yno. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y tîm cynhyrchu yn cynhyrchu cyfres hynod ddifyr arall.”

Dywedodd Richard Cowles, Cyfarwyddwr Unscripted at Lifted Entertainment: “Gyda’r ansicrwydd parhaus ynghylch covid a theithio rhyngwladol rydym wedi penderfynu peidio â dychwelyd i’n cartref yn Awstralia ar gyfer cyfres 2021. Rydyn ni’n gyffrous i ddychwelyd i Gastell Gwrych. Roedd y gyfres ddiwethaf yn llwyddiant ysgubol a chawsom groeso mawr gan y bobl leol ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld pawb eto. ”

Dywedodd Dr Mark Baker, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych:

“Rydw i wrth fy modd bod I’m A Celebrity wedi dewis Castell Gwrych i fod yn leoliad y DU ar gyfer cyfres 2021. Mae’n blasdŷ hardd rhestredig Gradd 1, ac yn gyrchfan i dwristiaid sy’n ymweld â Chymru. Bydd cael I’m a Celebrity yma o gymorth mawr i gefnogi ei adferiad parhaus yn ogystal â rhoi hwb economaidd mawr i’r rhanbarth. Rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda’r tîm eto ”

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru:

“Mae hyn yn newyddion gwych ac edrychwn ymlaen at groesawu tîm I’m a Celebrity yn ôl i Gymru eleni, ac at weithio gyda nhw i wneud rhaglen eleni yn well fyth! Croeso nol!”

Bydd mwy o wybodaeth am gyfres 2021 yn cael ei rhyddhau maes o law.

Mae ITV Studios yn delio â dosbarthiad byd-eang o I’m A Celebrity… Get Me Out of Here! gyda’r sioe wedi’i chomisiynu mewn 11 o diriogaethau eraill
gan gynnwys Awstralia, yr Almaen ac yn fwyaf diweddar Gwlad Groeg.