Gwrych Castle hosts I’M A CELEBRITY…GET ME OUT OF HERE!

ITV today announces that the 20th series of I’m A Celebrity…Get Me Out of Here! will be filmed at the historic Gwrych Castle, Abergele in North Wales.

Ant & Dec will host an adapted version of I’m A Celebrity…Get Me Out Of Here! live every night on ITV from the castle this Autumn.  As on the regular series, viewers will see the celebrities undertake grueling trials and fun-filled challenges to win food and treats in the lead up to one of them being crowned, for the first time ever, King or Queen of the Castle.

With views of the beautiful Welsh countryside, Gwrych Castle is nestled in a tree lined hillside overlooking the Irish Sea. The atmospheric ruined castle with its sprawling design and turrets is spread across 250 acres of gardens and grounds. 

Dr Mark Baker, Chair of the Gwrych Castle Preservation Trust said “I’m absolutely delighted that I’m A Celebrity has chosen Gwrych Castle to be its UK location for the 2020 series.  Gwrych Castle is a beautiful grade I listed 19th century country house and a must-see destination for tourists visiting Wales. I’m A Celebrity being here will really help support Gwrych Castle and its ongoing restoration as well as giving the region a much-needed economic boost.”

Lord Elis-Thomas, The Welsh Government Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism said “We’re extremely pleased to welcome such a large production to Wales, offering a chance to showcase a spectacular part of our country to significant audiences across the UK.  We’re looking forward to working with the team on this production and hope to use this opportunity to show some of what North Wales has to offer.”

Andrew White, Director Wales, National Lottery Heritage Fund said: “We have been delighted to support Gwrych Castle and it is great to hear it will be having its moment in the limelight. The series will be a wonderful opportunity to showcase the beauty of north Wales as well as show how a historic building can engage a modern audience in innovative ways. We hope it will help to boost support for the castle in the long term.”

Richard Cowles, Director of Entertainment at ITV Studios said: “The Australian jungle is such an integral part of the show it was a big challenge to find a UK location where we could continue to deliver what viewers love about I’m A Celebrity…Get Me Out of Here!   But Gwrych will definitely do that; the Castle sits in an amazing and atmospheric setting on a hillside overlooking the Irish Sea.  While there will be plenty of changes required as we move from New South Wales in Australia to North Wales in the UK, we are really excited to see how we can adapt the format and make the Castle our new home for a very special 20th series of I’m a Celebrity…Get Me Out of Here! this Autumn.”


Heddiw mae ITV yn cyhoeddi y bydd yr 20fed gyfres o ‘I’m A Celebrity…Get Me Out of Here!’ yn cael ei ffilmio yng Nghastell hanesyddol Gwrych yn Abergele, Gogledd Cymru.

Gyda golygfeydd godidog o gefn gwlad Cymru, mae Castell Gwrych yn swatio yng nghesail llechwedd goediog sy’n edrych dros Fôr Iwerddon. Mae’r Castell yn adfail ac yn llawn awyrgylch atmosfferig, gyda’i adeiladwaith a’i dyrrau wedi eu gwasgaru ar draws 250 erw o dir a gerddi.

Bydd Ant a Dec yn cyflwyno fersiwn wedi addasu o ‘I’m A Celebrity …Get Me Out Of Here!’ yn fyw o’r Castell bob nôs ar ITV yn yr Hydref. Fel yn y cyfresi arferol fe fydd gwylwyr yn gweld enwogion yn ymgymryd â threialon arteithiol a heriau hwyliog i ennill prydau bwyd a danteithion, fydd yn y pendraw yn arwain at un ohonynt yn cael eu coroni yn Frenin neu Frenhines y Castell am y tro cyntaf erioed.

Dywedodd Dr Mark Baker, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych: “Rwy’n hynod o falch fod ‘I’m A Celebrity’ wedi dewis Castell Gwrych i fod yn lleoliad yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cyfres 2020. Mae Castell Gwrych yn blasdŷ hardd rhestredig Gradd 1, ac yn gyrchfan hanfodol i dwristiaid sy’n ymweld â Chymru. Bydd cael ‘I’m A Celebrity’ yma yn hwb i’r Castell ac yn gymorth i’r ymdrechion parhaol i’w adfer yn ogystal â bod yn hwb economaidd sy’n wir ei angen ar y rhanbarth.”

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rydym yn hynod falch o groesawu cynhyrchiad mor fawr i Gymru, sy’n cynnig cyfle i arddangos rhan ysblennydd o’n gwlad i gynulleidfa sylweddol ar draws y Deyrnas Unedig. Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio gyda’r tîm ar y cynhyrchiad yma, gan obeithio gwneud yn fawr o’r cyfle i ddangos yr hyn sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig.”

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru ‘Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol’: “Rydym wrth ein boddau yn cefnogi Castell Gwrych ac mae’n wych clywed y bydd yn cael cyfle i ddisgleirio. Fe fydd y gyfres yn gyfle bendigedig i arddangos prydferthwch Gogledd Cymru yn ogystal â dangos sut y gall adeilad hanesyddol ymgysylltu â chynulleidfa fodern mewn dull arloesol. Rydym yn obeithiol y bydd o gymorth i gryfhau’r gefnogaeth i’r Castell yn yr hir-dymor.” Dywedodd Richard Cowles, Cyfarwyddwr Adloniant ITV Studios: “Mae’r goedwig drofannol yn Awstralia yn gymaint rhan annatod o’r sioe, roedd yn her enfawr i ddarganfod lleoliad yn y Deyrnas Unedig fydda’n galluogi ni i ddarparu’r elfennau hynny y mae gwylwyr ‘I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here’ yn eu caru. Ond fe fydd Castell Gwrych yn gwneud hynny yn bendant; mae’r Castell mewn lleoliad atmosfferig ac anhygoel ar lechwedd yn edrych dros Fôr Iwerddon. Tra bydd angen nifer o newidiadau wrth i ni symud o ‘Dde Cymru Newydd’ yn Awstralia i Ogledd Cymru yn y Deyrnas Unedig, rydym yn hynod gyffrous i weld sut y byddwn yn gallu addasu’r fformat deledu gan wneud y Castell yn gartref newydd i ni fis Hydref yma ar gyfer yr 20fed gyfres arbennig iawn o ‘I’m A Celebrity…Get Me Out of Here!’.